Wythnos Gwirfoddolwyr 2026: Dathlu Miliynau sy'n Rhoi'n Ôl Ar Draws y DU
Bydd cymunedau ledled y DU yn dod ynghyd o 1–7 Mehefin 2026 i ddathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr, ymgyrch genedlaethol sy'n cydnabod y cyfraniad anhygoel y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i gymdeithas.
Dan arweiniad Fforwm Gwirfoddoli'r DU, mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn gyfle blynyddol i ddiolch i'r miliynau o bobl ledled y DU sy'n rhoi eu hamser, eu hangerdd a'u sgiliau i gefnogi eraill.
Drwy gydol yr wythnos, bydd cannoedd o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ar-lein ac yn bersonol, o seremonïau gwobrwyo a digwyddiadau dathlu i foreau coffi, diwrnodau agored ac ymgyrchoedd recriwtio gwirfoddolwyr, gan ddod â phobl ynghyd i gydnabod a gwerthfawrogi gwirfoddolwyr ym mhob cwr o’r wlad.
Ar draws y DU, mae pobl ifanc yn camu ymlaen i wneud gwahaniaeth, gan ennill sgiliau, hyder a phrofiad gwerthfawr wrth gyfrannu at achosion sy'n bwysig iddyn nhw.
Eleni, mae Llysgenhadon #iWill yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi gweithgaredd Wythnos y Gwirfoddolwyr, gan helpu i ymgysylltu â chymunedau a hyrwyddo manteision gweithredu cymdeithasol ieuenctid. Mae eu cyfranogiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd creu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan ac arwain, gan sicrhau bod dyfodol gwirfoddoli yn parhau i fod yn gryf ac yn gynhwysol.
Dywedodd Hilary McGrady, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy'n cefnogi Wythnos y Gwirfoddolwyr eleni:
“Rwyf wrth fy modd ein bod ni’n cefnogi Wythnos y Gwirfoddolwyr eleni. Mae gennym ni dros 44,000 o wirfoddolwyr yn yr Ymddiriedolaeth, ac maen nhw’n gwneud gwaith mor anhygoel i ni – ni allem ni wneud ein gwaith hebddyn nhw. Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle i daflu goleuni ar y cyfraniad anhygoel y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud. Rwyf hefyd yn gwybod faint mae gwirfoddoli’n ei olygu iddyn nhw a faint maen nhw’n ei gael yn ôl – cyfeillgarwch newydd, ymdeimlad o gymuned, ac ymdeimlad gwirioneddol o roi rhywbeth yn ôl.
I bob gwirfoddolwr allan yna, diolch am bopeth rydych chi'n ei wneud, mae'n bleser gweithio gyda chi. Hoffwn feddwl y bydd Wythnos y Gwirfoddolwyr yn annog mwy a mwy o wirfoddolwyr i fod eisiau cymryd rhan, nid yn unig yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond yn y nifer o sefydliadau allan yna sydd â chyfleoedd i wirfoddoli.”
Yn ogystal â chynnig cyfle hollbwysig i fynegi diolchgarwch, mae'r wythnos hefyd yn anelu at annog mwy o bobl i roi cynnig ar wirfoddoli, gan ddangos yr effaith gadarnhaol y mae'n ei chael ar unigolion, cymunedau a chymdeithas ehangach.
