Lottie's Story

Grants Panel Member, PAVO

I wasn’t just watching things happen, I was helping shape outcomes.’ Lottie, a young volunteer in Powys, shares her story about what volunteering had meant to her.

My name is Lottie Cook, I’m 17 years old and I volunteer in Powys.

When I first heard about the opportunity to be a grants panel member, it stood out to me as something different. It wasn’t the usual kind of volunteering I’d heard about, it involved decision making, discussions, and having a real say in where funding should go. I enjoy talking through ideas and hearing different perspectives, so I thought, why not give it a go?

Before the panel meeting, I was sent the applications to read through. Each one was different and reflected creative, meaningful ideas to support children and families in the community. I rated them based on specific criteria and made notes on what I thought was strong and what could be improved. By the time the panel meeting came around, I felt prepared.

In the meeting, I had the chance to talk about each application, explain why I gave it the rating I did, and listen to what the other panel members thought. It was a respectful, thoughtful environment where everyone’s voice mattered. Hearing different opinions gave me a better understanding of the needs in Powys.

Being part of that process made me feel involved in something important. I wasn’t just watching things happen, I was helping shape outcomes. The projects we supported would go on to benefit families and young people in the area through new services and events. That felt really good. It meant I was helping to bring positive change in a way that aligned with things I personally believe in.

Throughout the experience, the support was great. There was regular email communication, and whenever I had a question, I usually got a reply within the hour. Before the panel meeting, I also had an online session to learn more about the role and meet the person who would be leading the panel. That made everything feel more comfortable and familiar when it came time for the actual discussion.

Being a grants panel member wasn’t just about volunteering, it was about being heard, being part of a team, and making a difference. It opened my eyes to a new kind of opportunity and gave me the confidence to keep getting involved.

Lottie's Story

'Doeddwn i ddim yn sefyll yn ôl yn gwylio pethau'n digwydd yn unig, roeddwn i’n helpu i lunio’r canlyniadau.’ Mae Lottie, gwirfoddolwraig ifanc ym Mhowys, yn rhannu ei stori am beth mae gwirfoddoli wedi’i olygu iddi hi.

Mae Lottie yn gwirfoddoli fel rhan o banel Grantiau a Arweinir gan Ieuenctid ym Mhowys. Dyma ei stori gwirfoddoli… (hyd yma)…

Fy enw i yw Lottie Cook, rwy’n 17 oed ac dw I’n gwirfoddoli ym Mhowys.

Pan glywais i gyntaf am y cyfle i fod yn aelod o banel grantiau, fe wnaeth e sefyll allan i mi fel rhywbeth gwahanol. Doedd e ddim fel y math arferol o wirfoddoli roeddwn i wedi clywed amdano o’r blaen – roedd e’n cynnwys gwneud penderfyniadau, trafodaethau, ac yn rhoi llais gwirioneddol i mi o ran ble dylai’r arian fynd. Dw i’n mwynhau trafod syniadau a chlywed safbwyntiau gwahanol, felly meddyliais, pam ddim rhoi cynnig iddi?

Cyn y cyfarfod panel, derbyniais y ceisiadau i’w darllen. Roedd pob un yn wahanol ac yn adlewyrchu syniadau creadigol, ystyrlon i gefnogi plant a theuluoedd yn y gymuned. Fe wnes i eu sgorio yn seiliedig ar feini prawf penodol ac ysgrifennu nodiadau ar yr hyn roeddwn i’n meddwl oedd yn gryf a beth allai gael ei wella. Erbyn i’r cyfarfod ddod, roeddwn i’n teimlo’n barod.

Yn y cyfarfod, cefais y cyfle i siarad am bob cais, egluro pam roeddwn i wedi rhoi’r sgôr benodol iddo, ac i wrando ar farn aelodau eraill y panel. Roedd yn amgylchedd parchus a phwyllog lle roedd llais pawb yn bwysig. Roedd clywed barn wahanol yn rhoi gwell dealltwriaeth i mi o anghenion Powys.

Roedd bod yn rhan o’r broses honno’n gwneud i mi deimlo’n rhan o rywbeth pwysig. Doeddwn i ddim yn sefyll yn ôl yn gwylio pethau’n digwydd yn unig – roeddwn i’n helpu i lunio’r canlyniadau. Byddai’r prosiectau roedden ni’n eu cefnogi’n mynd ymlaen i fod o fudd i deuluoedd a phobl ifanc yr ardal drwy wasanaethau a digwyddiadau newydd. Roedd hynny’n teimlo’n wych. Roedd yn golygu fy mod i’n helpu i ddod â newid cadarnhaol mewn ffordd oedd yn unol â’m crêd bersonol.

Drwy gydol y profiad, roedd y gefnogaeth yn wych. Roedd cyfathrebu e-bost rheolaidd, ac unrhyw bryd roedd gen i gwestiwn, roeddwn i fel arfer yn cael ymateb o fewn yr awr. Cyn y cyfarfod panel, cefais sesiwn ar-lein hefyd i ddysgu mwy am y rôl a chwrdd â’r person fyddai’n arwain y panel. Fe wnaeth hynny wneud i bopeth deimlo’n fwy cyfforddus ac yn gyfarwydd pan ddaeth amser y drafodaeth go iawn.

Doedd bod yn aelod o banel grantiau ddim yn ymwneud â gwirfoddoli yn unig – roedd yn ymwneud â chael eich clywed, bod yn rhan o dîm, a gwneud gwahaniaeth. Fe agorodd fy llygaid i fath newydd o gyfle ac fe roddodd yr hyder i mi gadw ati i gymryd rhan.